Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae gan arweinwyr weledigaeth ddigidol glir ac maent yn datblygu polisïau sy’n hyrwyddo diwylliant digidol. Defnyddir data i helpu i gynorthwyo dysgwyr a nodi materion y sefydliad. Anogir staff a dysgwyr i ychwanegu at eu sgiliau digidol mewn amgylchedd diogel.

intro icon

Gweledigaeth ac ymrwymiad

Mae gan uwch-arweinwyr weledigaeth glir ac ymrwymiad i ddefnyddio technolegau digidol a sianeli digidol i wella dysgu a sgiliau.

Nodau cysylltiedig

  • Dysgu gwell

    Mae dysgu yn cael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio technoleg, lle bynnag y mae'n briodol ac yn fuddiol i'r dysgwr.

Polisi a chydymffurfiaeth

Mae cynwysoldeb, sgiliau digidol a’r defnydd o dechnoleg ac adnoddau digidol wedi’u cynnwys mewn polisïau sefydliadol craidd. Mae staff a dysgwyr yn deall polisïau, ac maent yn dangos llinellau atebolrwydd clir o ran cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, diogelwch, diogelu, hygyrchedd a diogelu data.

Nodau cysylltiedig

  • Profiad diogel

    Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a'i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.

  • Deall manteision Nod cyffredin

    Mae'r holl staff, gan gynnwys uwch arweinwyr, yn deall manteision technoleg ddigidol, a rhwystrau posibl i'w cyflawni.

Cydweithio effeithiol

Mae uwch-arweinwyr a rheolwyr yn meithrin diwylliant o gydweithredu (o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid eraill), sy’n galluogi defnydd effeithiol o arbenigedd ac adnoddau i reoli a gwella’r defnydd o dechnoleg.

Nodau cysylltiedig

  • Diwylliant cydweithredol

    Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

  • Cysono adnoddau Nod cyffredin

    Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi'u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy'n esblygu'n barhaus.

Safonau Cysylltiedig

Gwerthuso a gwella

Mae defnydd priodol o dechnolegau digidol yn helpu’r sefydliad i werthuso a gwella profiadau dysgwyr a phrosesau busnes cysylltiedig (megis derbyn dysgwyr, rheoli data ac adrodd).

Nodau cysylltiedig

  • Gwelliant parhaus

    Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.

Diwylliant digidol

Mae staff, dysgwyr a phartneriaid wedi’u grymuso i dderbyn perchenogaeth o’u defnydd o dechnolegau digidol ac maent yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau digidol mewn diwylliant sefydliadol cadarnhaol a chefnogol.

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

Sefydliad digidol

Mae prosesau, rhwydweithiau a sianeli priodol ar waith i hwyluso a chefnogi’r gwaith o rannu arferion da o ran technolegau digidol a sgiliau digidol.

Nodau cysylltiedig

  • Cydlyniad a hygyrchedd

    Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy'n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy'n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.