Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy ymarfer

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Defnyddio dadansoddeg dysgu a data asesu o lwyfannau dysgu i fireinio strategaethau dysgu
  • Cynnal prosiectau ymchwil gweithredu ar weithgareddau dysgu digidol
  • Cyrchu ac adnabod ymchwil cyfredol perthnasol e.e. EBSCO
  • Ymgysylltu â, a chyfrannu at, rwydweithiau proffesiynol ar gyfer ymchwil ymarferwyr e.e. EPALE
  • Creu delweddau data a deunydd graffig arall yn seiliedig ar ddata i helpu cyfathrebu ei ystyr
  • Ymgysylltu gweithredol ag arweinyddion addysgol, rhwydweithiau a phynciau ar gyfryngau cymdeithasol

6.1 Ymarfer digidol seiliedig ar dystiolaeth

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio’r ffynonellau data a gwybodaeth sy’n cael eu darparu i mi ynglŷn â dysgwyr a dysgu er mwyn gwella fy ymarfer
  • Dw i’n cydnabod y pwysigrwydd o ddefnyddio ffynonellau data credadwy i wella fy ymarfer.

Sefydlu

  • Dw i’n holi ystod o ffynonellau data a gwybodaeth priodol am ddysgwyr a dysgu sy’n fy ngalluogi i addasu fy ymarfer.

Trawsnewid

  • Dw i’n creu a rhannu data am ddysgwyr a dysgu yn briodol ac yn cydweithio ag eraill i ddatblygu ymarfer dysgu digidol arloesol.
  • Dw i’n hyrwyddo ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Dw i’n dadansoddi/myfyrio’n feirniadol ar fy ymarferion dysgu ac yn addasu’n briodol. Dw i’n rhannu a thrafod canlyniadau ar lwyfan ehangach.

6.2 Developing my Professional Learning Network

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n ymgysylltu â chydweithwyr yn fy sefydliad i ddiweddaru fy ymarfer dysgu digidol
  • Dw i’n cymryd rhan mewn sesiynau Datblygu Gyrfa Broffesiynol wedi’u trefnu i uwchsgilio mewn dysgu Digidol.

Sefydlu

  • Dw i’n ymgysylltu â fy nghymheiriaid lleol i ddatblygu fy ngwybodaeth o ddysgu ac addysgeg digidol.

Trawsnewid

  • Dw i’n chwilio am a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau ar-lein sy’n gwella a chyfoethogi ymarfer addysgu a dysgu.
  • Dw i’n chwilio am gyfleoedd i helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol ar-lein.