Gwelliant parhaus

Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Gwerthuso a gwella

    Mae defnydd priodol o dechnolegau digidol yn helpu’r sefydliad i werthuso a gwella profiadau dysgwyr a phrosesau busnes cysylltiedig (megis derbyn dysgwyr, rheoli data ac adrodd).

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Dulliau arloesol

    Mae staff wedi’u grymuso i archwilio dulliau arbrofol ac arloesol o ran dysgu digidol, i werthuso a myfyrio ynghylch y deilliannau ac i rannu arferion da a’r gwersi a ddysgwyd.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Sicrhau-hygyrchedd

    Mae platfformau dysgu, offer ac adnoddau newydd posibl yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio, gan roi ystyriaeth i anghenion dwyieithog.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Cynnwys dysgwyr

    Mae dysgwyr yn chwarae rhan weithredol wrth werthuso effeithiolrwydd dysgu digidol ac wrth gynllunio a gweithredu gwelliannau.

Datblygiad staff

  • Hyrwyddwyr

    Mae arloeswyr neu ‘hyrwyddwyr’ digidol yn cefnogi’r gwaith o ledaenu’r arferion gorau drwy hyfforddi a mentora cydweithwyr.

Systemau a seilwaith menter

  • Ymgynghori a gwerthuso

    Mae penderfyniadau ynghylch systemau ac offer digidol newydd yn cael eu llywio gan weithgareddau ymgynghori â staff, dysgwyr a defnyddwyr eraill, a’u gwerthuso ar ôl eu gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn cael eu diwallu.