Cyflwyniad i'r Fframwaith Safonau Digidol ar gyfer Addysg Ôl-16 Cymru.

Gwelodd 2019 gyhoeddi Digidol 2030: Fframwaith Strategol ar gyfer dysgu digidol ôl-16 yng Nghymru. Diwedd proses cyd-awduro oedd hyn rhwng Llywodraeth Cymru, Jisc a’r sector addysg ôl-16 (addysg bellach, dysgu yn y gwaith a fel oedolion).

Bwriad y fframwaith yw i:

  • fynegi gweledigaeth glir, ar y cyd ar gyfer ein hagwedd at ddysgu digidol yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru, gan annog cydweithredu a rhannu ymarfer da;
  • adnabod blaenoriaethau datblygu presennol ac i’r dyfodol, disgwyliadau, a meysydd i’w datblygu y gellir mynd i’r afael â hwy ar lefelau darparwr, rhanbarthol a chenedlaethol;
  • helpu i flaenoriaethu buddsoddiad yn y dyfodol o amser ac adnoddau, yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru, yn strategol gan brif randdeiliaid ac i ddarparwyr dysgu unigol; ac
  • amlygu angen i gynyddu parhad profiadau dysgu a thrawsnewid o ddarpariaeth dysgu gorfodol i ôl-orfodol.

https://gov.wales/digital-2030-strategic-framework

Nod un y fframwaith yw fod::

safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol ar waith i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan ychwanegu at y cymwyseddau digidol a ddatblygir yn ystod addysg orfodol.

Tra bod Digidol 2030 yn cael ei ddatblygu, amlygodd darparwyr dysgu fwlch yn y maes hwn, a gofyn am set o safonau digidol proffesiynol ar y cyd. Fel y fframwaith Digidol 2030, mae’r safonau digidol hyn wedi cael eu creu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y sector ôl-16 a Jisc.

Pam bod fframwaith safonau digidol yn bwysig?

Bydd fframwaith safonau yn rhoi dealltwriaeth ar y cyd i’r sector o sut mae ymarfer digidol da yn edrych a’r canlyniadau mae’n gallu helpu i gyflawni.

down arrowDangos mwy

Mae ymarferwyr yn gallu ei ddefnyddio i ddeall eu lefel bresennol o ymarfer a gweld llwybr i ddatblygu’r ymarfer hwnnw ymhellach yn glir. Mae rheolwyr ac arweinyddion yn gallu ei ddefnyddio fel strwythur i ddatblygu sgiliau staff. Mae’n gallu helpu hefyd gyda gwneud penderfyniadau sy’n helpu i symud eu sefydliad ymlaen tuag at weithredu’r strategaeth Digidol 2030.

Cysylltiedig â’r Safonau Proffesiynol

Rydym wedi defnyddio’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Addysg Bellach a Dysgu’n Seiliedig ar Waith yng Nghymru fel y fframwaith ar gyfer y set hon o safonau digidol. Gwnaethom hyn am sawl rheswm.

down arrowDangos mwy

Roedd nifer o fframweithiau amgen a allai fod wedi darparu’r sylfaen ar gyfer strwythur y set hon o safonau digidol ond mae defnyddio’r safonau Proffesiynol yn golygu ei fod yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth addysgu a dysgu sydd wedi cael eu nodi gan y sector addysg ôl-16 yng Nghymru ei hun.

Mae defnyddioldeb wedi bod yn brif ganolbwynt i’r fframwaith Safonau Digidol. Roedd eisiau creu teclyn gydag strwythur cyfarwydd arnom sy’n hawdd i’w ddeall. Helpodd defnyddio’r themâu o’r safonau proffesiynol i gyflawni hyn.

Ar yr adeg hon, nid oes safonau proffesiynol ar draws y sector i staff cymorth, staff gweithredol, nac arweinyddion yn y sector ôl-16, felly rydym wedi dechrau gydag ymarferwyr. Yn y dyfodol mae cyfle i ddatblygu safonau digidol ar gyfer rolau eraill yn unol ag unrhyw safonau proffesiynol trosfwaol, os yw adborth gan y sector ôl-16 yn dangos y byddai hyn o werth.

Deall y safonau

Strwythur y Safonau

down arrowDangos mwy
  1. Thema safonol - seiliedig ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Fframwaith Ymarferwyr Addysg Bellach a Dysgu’n Seiliedig ar Waith.
  2. Gweithgareddau – mae’r detholiadau hyn yn cael eu bwriadu fel enghreifftiau yn unig ac nid yn rhestr gynhwysfawr neu orfodol. Dros amser mae technolegau ac ymarferion yn codi fydd yn parhau yn weithgareddau dilys. Hefyd, gan ddibynnu ar gyd-destun yr ymarferwr, gallai fod gweithgareddau penodol sy’n berthnasol ond nad ydynt yn haeddu cael eu cynnwys mewn dogfen gyffredinol. Byddem yn disgwyl i ymarferwyr a’u rheolwyr nodi eu set eu hunain o weithgareddau yn ogystal â’r awgrymiadau a gynigiwn yma.
  3. Is-themâu safonau – mae’r rhain yn canolbwyntio ar y canlyniadau sy’n dangos bod ymarferwr yn cyflawni safon.
  4. Datganiadau safonau – disgrifiadau sy’n nodi cyflawniad lefel ymarfer safonol.
  5. Lefelau ymarfer – i greu llwybr clir ar gyfer datblygiad proffesiynol rydym wedi torri’r safonau i lawr i 3 lefel ar wahân (gweler isod am ddisgrifiad)
  6. Aliniad i strategaeth Digidol 2030 – rydym wedi mapio safonau digidol yn erbyn amcanion y Strategaeth Digidol 2030 maent yn cydweddu agosaf â hwy.

Sut mae’r Datganiadau Safon wedi cael eu hysgrifennu?

Dylai safonau gael eu canolbwyntio ar ganlyniadau. Mewn geiriau eraill, nid yw’n ddigon i ddweud bod gweithgaredd digidol a ddylai fod yn digwydd; mae angen i bob safon fod yn glir ynglŷn a phwrpas y gweithgaredd. Yn y modd hwn, y bydd safonau’n berthnasol. Rydym wedi eu hysgrifennu fel bod pob un yn ateb “felly beth?”. Er enghraifft:

Dw i'n defnyddio llwyfannau digidol a theclynnau (gweithgaredd) i rymuso dysgwyr i ffurfio eu hagwedd eu hunain at ddysgu defnyddio teclynnau digidol (canlyniad).
down arrowDangos mwy

Mae’r safonau hefyd yn berthynol i weithrediadau. Mae’n bosibl i ymarferwr ddarparu tystiolaeth i ddangos eu bod wedi cyflawni safon. Nid yw ymadroddion fel “Mae gen i ymwybyddiaeth am…” neu “Dw i’n deall hynny…” o gymorth yn hynny o beth. Mae angen i’r safon ddisgrifio rhywbeth mae rhywun wedi gwneud neu ddweud. Mater i’r ymarferwr a’i reolwr yw pa dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos cyflawni safon.

Dylai’r safonau gael eu defnyddio gan ymarferwyr i annog myfyrio, fel y gallant nodi eu cryfderau yn ogystal â meysydd i’w datblygu, yn ogystal â sut maent wedi ateb safon neu’n cynllunio gwneud hynny. Yn anochel bydd achosion lle mae lefelau penodol o safonau yn haws i’w cyflawni o fewn rolau, sefydliadau, neu gyd-destunau penodol.

Rhagbaratoi at y Dyfodol

Dros amser, mae rolau yn newid, ac mae technolegau ac ymarferion newydd yn codi. Wrth fod yn benodol am y swyddi mae pobl yn eu gwneud a’r mathau o dechnoleg y gallent ddefnyddio, rydym mewn perygl o greu set o safonau sy’n dod yn anarferedig yn gyflym. Cymaint â phosibl rydym wedi gwneud pob rôl a thechnoleg datganiad safonol yn agnostig neu wedi cyfeirio at fathau generig o dechnoleg fel “mannau a chymunedau ar-lein”.

WBeth mae’r lefelau yn eu golygu?

Mae’r defnydd o dechnoleg i gynorthwyo addysgu a dysgu yn gymhleth. Bydd ceisio crynhoi’r lefelau gwahanol o berfformiad yn cynnwys cyfaddawdau bob tro ond i gadw’r fframwaith safonau hwn yn ddefnyddiadwy rydym wedi dewis dull 3-lefel; Archwilio, Sefydlu a Thrawsnewid.

down arrowDangos mwy
Lefel Nodweddion
Archwilio Mae ymarferwyr yn datblygu'r agweddau sylfaenol o ymarfer digidol. Maent yn cymryd gwybodaeth a sgiliau sy'n cael eu darparu iddynt i ystyriaeth. Maent yn defnyddio technolegau digidol i gymryd lle ymarferion traddodiadol mewn dull “tebyg am debyg”.
Sefydlu Mae ymarferwyr yn defnyddio technoleg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn fwy effeithiol neu effeithlon. Maent yn ceisio ffyrdd newydd o ddatblygu eu hymarfer arloesol, gan weithio ar eu pennau'u hunain neu gyda'i gilydd yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
Trawsnewid Mae ymarferwyr yn defnyddio technoleg i ddatblygu ymarferion hollol newydd na fyddai wedi bod yn bosibl i raddau helaeth heb y defnydd o dechnolegau digidol. Maent yn gweithredu fel model rôl i eraill, gan gynnig hyfforddiant a mentora efallai.

Mae’r defnydd o dechnoleg i gynorthwyo addysgu a dysgu yn gymhleth. Bydd ceisio crynhoi’r lefelau gwahanol o berfformiad yn cynnwys cyfaddawdau bob tro ond i gadw’r fframwaith safonau hwn yn ddefnyddiadwy rydym wedi dewis dull 3-lefel; Archwilio, Sefydlu a Thrawsnewid.

Yr egwyddor sylfaenol yw un o symud ymlaen. Mewn geiriau eraill, bydd unrhyw un sy’n gweithio ar y lefelau uwch (Sefydlu neu Drawsnewid) hefyd yn dangos nodweddion y lefelau cyn yr un honno.

Mae’r safonau yno i gynorthwyo arloesi mewn addysgu a dysgu yn y sector ôl-16 yng Nghymru. Yn yr achos hwn, mae “arloesi” yn cyfeirio at arloesi mewn ymarfer addysgu a dysgu yn hytrach nac arloesi yn y dechnoleg ei hun. Mewn geiriau eraill, gallai ymarferwr fod yn gwneud defnydd o dechnolegau digidol ar gael yn barod neu hyd yn oed “dinod” i alluogi ymarferion addysgu a dysgu arloesol. Nid yw defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn unig yn ddigon da i arddangos ymarfer da.

Nodyn i arweinyddion sefydliadol a rheolwyr llinell

Bydd y fframwaith safonau digidol yn fwyaf effeithiol pan mae’n rhan gyflawn o ymdrechion sefydliadol i weithredu’r strategaeth Digidol 2030 i Gymru, a dim yn cael ei ddefnyddio ar wahân. Nid oes angen iddynt gael eu defnyddio mewn ffordd argymhellol, ond gallant gael eu cymhwyso’n ddethol i weddu i rolau, timau neu unigolion penodol, fel ffordd o nodweddu pa ymarferion a ddisgwylir a sut y gallent gael eu gwella.

down arrowDangos mwy

Mae’r safonau wedi cael eu cynllunio i fod yn gyraeddadwy gan ymarferwyr tra’n aros yn ddyheadol. Gallai fod enghreifftiau lle mae cyflawni lefel safon yn dibynnu ar bolisïau, prosesau neu systemau penodol ar waith sydd y tu hwnt i reolaeth yr unigolyn.

Fel y cyfryw, mae cyflawni’r safonau digidol yn bartneriaeth rhwng ymarferwr a sefydliad. Nid oes disgwyl y bydd pob ymarferwr yn ateb pob safon; yn hytrach, mae’r safonau yn adnodd y gellir ei deilwra a’i addasu i adlewyrchu rolau a dyheadau unigol, yn ogystal â blaenoriaethau a chynlluniau’r sefydliad.

Aliniad â nodau ac amcanion Digidol 2030

Mae pob safon ddigidol yn cynnwys adran sy’n cyfeirio at nodau ac amcanion mwyaf perthnasol Digidol 2030. Mae hyn i helpu gyda chynllunio a datblygu sefydliadol, gan alluogi arweinyddion i olrhain perfformiad yn ôl yn erbyn y safonau digidol i ganlyniadau arfaethedig Digidol 2030.

down arrowDangos mwy

Mae’r dewisiadau sy’n cael eu gwneud yma yn agored i rywfaint o ddehongliad ac fel y cyfryw canllaw ydynt yn hytrach na rhestr awdurdodol. Gallai sefydliadau fod yn awyddus i lunio’u aliniad eu hunain yn seiliedig ar eu cyd-destun penodol, gan gynnwys eu cynlluniau a strategaethau digidol eu hunain.

Lle’n bosibl mae’r cysylltiad rhwng Digidol 2030 a’r Safonau Digidol ar lefel y thema gyffredinol neu’r is-themâu, yn hytrach na chynnwys unrhyw ddatganiad lefel Safon unigol.