Arddangos urddas, cwrteisi a pharch at eraill

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Cymryd rhan mewn grwpiau a fforymau rhanddeiliaid dysgwyr
  • Cyfrannu at bolisïau cod ymddygiad i ddysgwyr
  • Darparu mannau diogel a dibynadwy lle gall dysgwyr ryngweithio ar-lein
  • Deall canllawiau eich sefydliad ar ymddygiad da a’ch cyfrifoldebau cytundebol

4.1 Arddangos ymddygiad cadarnhaol mewn mannau a gweithgareddau digidol

(Sylwch: mae’n cymryd bod canllawiau sefydliadol, codau ymddygiad sy’n bodoli)

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n cadw at ganllawiau ymddygiad ar-lein fy sefydliad lle maent ar gael.

Sefydlu

  • Dw i’n hyrwyddo ymarfer da mewn ymddygiad ar-lein gyda fy nghymheiriaid a dysgwyr.
  • Dw i’n helpu dysgwyr i greu hunaniaeth gadarnhaol ar-lein ac i arddangos parch yn eu cyfathrebu ar-lein.

Trawsnewid

  • Dw i’n helpu i ffurfio agweddau a phrosesau yn fy sefydliad sy’n hyrwyddo ymarfer da mewn ymddygiad ar-lein.
  • Dw i’n cynorthwyo dysgwyr i reoli enw da ar-lein sy’n gwella eu cyflogadwyedd a rôl yn y gymuned ar-lein ehangach.

4.2 Dangos parch at eraill mewn man a gweithgareddau digidol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n dangos parch at bobl eraill ac at eu safbwyntiau hyd yn oed pan anghytunaf â hwy.
  • Lle’n bosibl, dw i’n helpu ymgorffori’r dulliau hyn i ymarfer addysgu.

Sefydlu

  • Dw i’n defnyddio teclynnau digidol i geisio a deall yn weithredol gwahanol safbwyntiau i fy rhai i.
  • Dw i’n cymedroli mannau cydweithredu digidol ac yn gweithredu ar unrhyw enghreifftiau o ddefnydd amhriodol.
  • Wrth gynllunio a darparu rhaglenni astudio, dw i’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr i arddangos parch at eraill mewn mannau ar-lein.

Trawsnewid

  • Dw i’n gweithredu fel eiriolwr dros bobl y mae eu syniadau yn aml yn cael eu camgynrychioli neu eu hanwybyddu mewn mannau ar-lein.
  • Dw i’n cynorthwyo eraill i estyn a gwella eu hymarfer mewn ffyrdd sy’n arddangos parch mewn mannau ar-lein.