Datblygiad staff

Caiff staff gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad gan ddefnyddio dulliau gweithredu a thechnegau cyflawni digidol. Gallant gael mynediad at rwydweithiau, digwyddiadau, cymunedau ymarfer a hyrwyddwyr i’w cynorthwyo.

intro icon

Cyfrifoldebau staff

Mae gan yr holl staff ddealltwriaeth glir o’u cyfrifoldebau unigol o ran dysgu digidol, llesiant a diogelwch ar-lein.

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol Nod cyffredin

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

  • Profiad diogel

    Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a'i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.

Cyfleoedd Dysgu

Mae mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol yn datblygu hyder staff wrth ddefnyddio technegau cyflawni digidol, ynghyd â’u gallu i nodi technolegau, offer a dyfeisiau addas i gefnogi eu gwaith.

Nodau cysylltiedig

  • Cydlyniad a hygyrchedd

    Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy'n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy'n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  • Deall manteision Nod cyffredin

    Mae'r holl staff, gan gynnwys uwch arweinwyr, yn deall manteision technoleg ddigidol, a rhwystrau posibl i'w cyflawni.

Ymarfer Myfyriol

Mae staff addysgu yn gallu sicrhau bod eu defnydd o dechnolegau dysgu yn ychwanegu gwerth at brofiadau dysgwyr drwy ymarfer myfyriol.

Nodau cysylltiedig

  • Dysgu gwell

    Mae dysgu yn cael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio technoleg, lle bynnag y mae'n briodol ac yn fuddiol i'r dysgwr.

  • Cysono adnoddau Nod cyffredin

    Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi'u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy'n esblygu'n barhaus.

Cyfranogiad cymunedol

Mae staff yn gwella ac yn diweddaru eu cymhwysedd digidol drwy gymryd rhan weithredol mewn cymunedau maes, digwyddiadau a rhwydweithiau yn eu sefydliad eu hunain a thu hwnt.

Nodau cysylltiedig

  • Diwylliant cydweithredol

    Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

Hyrwyddwyr

Mae arloeswyr neu ‘hyrwyddwyr’ digidol yn cefnogi’r gwaith o ledaenu’r arferion gorau drwy hyfforddi a mentora cydweithwyr.

Nodau cysylltiedig

  • Gwelliant parhaus

    Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.