Yn dangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, diogelwch, a lles

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddiogelwch a lles ar-lein
  • Datblygu neu weithredu gwasanaethau bugeiliol ar-lein y sefydliad i ddysgwyr
  • Arsylwi a rheoli rhyngweithrediadau dysgwyr mewn gofodau ar-lein a ddarperir gan y sefydliad
  • Cymryd rhan mewn grwpiau a fforymau rhanddeiliaid dysgwyr
  • Defnyddio a chyfrannu at bolisïau diogelu’r sefydliad
  • Ymgorffori mesurau i ddiogelu iechyd meddwl dysgwyr mewn cynllunio gweithgareddau dysgu yn seiliedig ar gyfryngau cymdeithasol
  • Cadw’ch gwybodaeth yn gyfredol am reoliadau diogelu data

1.1 Galluogi dysgwyr i ddysgu

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio llwyfannau a theclynnau digidol i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu pryd a ble mae’n gweddu i’w hanghenion.
  • Dw i’n darparu cymorth i ddysgwyr sydd ei angen arnynt i ddefnyddio technoleg yn effeithiol

Sefydlu

  • Dw i’n defnyddio llwyfannau a theclynnau digidol i ddarparu profiadau i ddysgwyr sy’n eu hestyn a’u herio i ddod yn ddysgwyr mwy effeithiol.
  • Dw i’n cymell ac annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau dysgu annibynnol eu hunain.

Trawsnewid

  • Dw i’n defnyddio llwyfannau a theclynnau digidol i rymuso dysgwyr i ffurfio eu hagwedd eu hunain at ddysgu defnyddio teclynnau digidol.
  • Dw i’n cynnwys llais dysgwyr i gyd-greu adnoddau a phrofiadau digidol.
  • Dw i’n creu cyfarwyddyd effeithiol a deunyddiau cymorth ar gyfer defnydd myfyrwyr o dechnolegau digidol

1.2 Rheoli a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol mewn mannau digidol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio polisïau a chyfarwyddyd fy sefydliad i osod disgwyliadau clir ar gyfer ymddygiad cadarnhaol dysgwyr mewn mannau ar-lein.
  • Lle gallaf, dw i’n modelu’r ymddygiadau hyn.

Sefydlu

  • Dw i’n gweithio gyda dysgwyr a chymheiriaid i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ymddygiad cadarnhaol ar-lein, ac i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain.
  • Dw i’n rheoli dysgu ac ymddygiad i hyrwyddo dysgu effeithiol a defnydd o ystod o ddulliau gwahanol.

Trawsnewid

  • Dw i’n delio’n hyderus a chymesur ag ymddygiadau dysgwyr, gan gynnal perthynas ag unigolion a grwpiau, ffafriol at ymgysylltu o ansawdd uchel mewn ystod o osodiadau.
  • Dw i’n hyfforddi a mentora ymarferwyr eraill i wella eu hymarfer diogelwch ar-lein eu hunain gyda dysgwyr

1.3 Gofalu am ddata dysgwyr

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n sicrhau bod data am neu’n perthyn i fy nysgwyr yn cael eu cadw’n ddiogel a phreifat bob amser, yn unol â gofynion GDPR a pholisïau sefydliadol.

Sefydlu

  • Dw i’n helpu fy nysgwyr a chymheiriaid i ddeall a dilyn gofynion diogelu data i gadw eu data eu hunain a rhai pobl eraill yn ddiogel a phreifat.

Trawsnewid

  • Dw i’n dylanwadu ar fy sefydliad i wella ei gasglu data a diogelwch yn barhaus lle gallaf.

1.4 Diogelu llesiant cymdeithasol, corfforol ac emosiynol dysgwyr tra’n defnyddio technolegau digidol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n galluogi dysgwyr i ddefnyddio technolegau a chyfarpar digidol mewn ffyrdd sy’n cefnogi eu llesiant.
  • Dw i’n rhoi gwybod i ddysgwyr am effaith gadarnhaol a negyddol technoleg ar eu llesiant.

Sefydlu

  • Dw i’n mesur gwerth technolegau am eu heffaith bosibl ar lesiant ac yn cynorthwyo dysgwyr yn eu defnydd ac yn ymgorffori hyn yn fy nghynllunio.
  • Dw i’n sefydlu cyfleoedd i drafod ymddygiadau sy’n cynorthwyo llesiant mewn ymarfer digidol gyda fy nysgwyr.

Trawsnewid

  • Dw i’n darparu cymorth i fy nghymheiriaid a fy sefydliad ar lefel strategol i ganfod ffyrdd o wella llesiant dysgwyr ac i ddiogelu eu llesiant cymdeithasol, corfforol ac emosiynol.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

Datblygiad staff

Systemau a seilwaith menter