Deall manteision

Mae’r holl staff, gan gynnwys uwch arweinwyr, yn deall manteision technoleg ddigidol, a rhwystrau posibl i’w cyflawni.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Polisi a chydymffurfiaeth Amcan cyffredin

    Mae cynwysoldeb, sgiliau digidol a’r defnydd o dechnoleg ac adnoddau digidol wedi’u cynnwys mewn polisïau sefydliadol craidd. Mae staff a dysgwyr yn deall polisïau, ac maent yn dangos llinellau atebolrwydd clir o ran cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, diogelwch, diogelu, hygyrchedd a diogelu data.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Cyflawni digidol Amcan cyffredin

    Defnyddir technolegau digidol priodol i wella dulliau darparu dysgu, cefnogi asesiadau a helpu staff i ymateb i ddewisiadau, agweddau a galluoedd unigol dysgwyr.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Arweiniad a chymorth

    Mae arweiniad a chymorth ar gael i helpu staff i ddeall eu cyfrifoldebau o ran defnyddio technoleg i ehangu mynediad a chefnogi dysgwyr, gan roi ystyriaeth i ddiogelwch ar-lein a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Cynnwys dysgwyr Amcan cyffredin

    Mae dysgwyr yn chwarae rhan weithredol wrth werthuso effeithiolrwydd dysgu digidol ac wrth gynllunio a gweithredu gwelliannau.

Datblygiad staff

  • Cyfleoedd Dysgu Amcan cyffredin

    Mae mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol yn datblygu hyder staff wrth ddefnyddio technegau cyflawni digidol, ynghyd â’u gallu i nodi technolegau, offer a dyfeisiau addas i gefnogi eu gwaith.

Systemau a seilwaith menter

  • Systemau cymorth effeithiol

    Mae gweithgareddau gweinyddu ac adrodd yn cael eu cefnogi’n effeithiol gan dechnoleg ddigidol fel bod staff addysgu yn gallu canolbwyntio ar anghenion dysgwyr.