Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

Gall dysgwyr oresgyn rhwystrau a chylfawni eu potensial oherwydd mae ganddynt systemau, dulliau gweithredu ac adnoddau hygyrch. Mae staff yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod sut i gynorthwyo dysgwyr gan ddefnyddio technoleg, gan gydweithio â phartneriaid pan fo hynny’n briodol.

intro icon

Uchafu potensial

Gall dysgwyr o bob cefndir a gallu gyflawni hyd eithaf eu potensial drwy ddefnyddio technoleg ddigidol i gynyddu hyblygrwydd a chefnogi dysgu annibynnol.

Nodau cysylltiedig

  • Cydlyniad a hygyrchedd

    Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy'n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy'n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Goresgyn rhwystrau

Defnyddir technegau dysgu digidol, adnoddau a dulliau diagnostig mewn ffordd greadigol i helpu i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad a llwyddiant dysgwyr.

Nodau cysylltiedig

  • Dysgu gwell Nod cyffredin

    Mae dysgu yn cael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio technoleg, lle bynnag y mae'n briodol ac yn fuddiol i'r dysgwr.

  • Cysono adnoddau

    Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi'u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy'n esblygu'n barhaus.

Sicrhau-hygyrchedd

Mae platfformau dysgu, offer ac adnoddau newydd posibl yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio, gan roi ystyriaeth i anghenion dwyieithog.

Nodau cysylltiedig

  • Gwelliant parhaus

    Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gweithio gyda sefydliadau arbenigol, yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynhwysiant digidol, hygyrchedd a llesiant dysgwyr.

Nodau cysylltiedig

  • Diwylliant cydweithredol

    Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

Arweiniad a chymorth

Mae arweiniad a chymorth ar gael i helpu staff i ddeall eu cyfrifoldebau o ran defnyddio technoleg i ehangu mynediad a chefnogi dysgwyr, gan roi ystyriaeth i ddiogelwch ar-lein a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd.

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol Nod cyffredin

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

  • Deall manteision

    Mae'r holl staff, gan gynnwys uwch arweinwyr, yn deall manteision technoleg ddigidol, a rhwystrau posibl i'w cyflawni.

Cynorthwyo dysgwyr

Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu nodau drwy gasglu a dadansoddi gwybodaeth am eu priodoleddau, eu presenoldeb, eu cynnydd a’u deilliannau.

Nodau cysylltiedig

  • Profiad diogel

    Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a'i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.