Systemau a seilwaith menter

Mae gan ddarparwyr systemau a phrosesau digidol ar waith sy’n atyniadol, yn hygyrch ac yn ddiogel. Maent yn buddsoddi mewn systemau a thechnolegau newydd mewn ymgynghoriad â dysgwyr a staff, ac maent yn cydweithio â rhanddeiliaid ar draws y sector.

intro icon

Profiad y dysgwr

Mae profiadau dysgwyr yn cael eu cyfoethogi drwy blatfformau, offer a gwasanaethau digidol difyr a hygyrch o safon uchel.

Nodau cysylltiedig

  • Dysgu gwell

    Mae dysgu yn cael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio technoleg, lle bynnag y mae'n briodol ac yn fuddiol i'r dysgwr.

Cydymffurfio

Mae profiad digidol diogel a chadarn yn cael ei ddarparu i’r holl ddysgwyr a staff, gan gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a’r safonau perthnasol (gan gynnwys hygyrchedd).

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol Nod cyffredin

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

  • Profiad diogel

    Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a'i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.

Systemau cymorth effeithiol

Mae gweithgareddau gweinyddu ac adrodd yn cael eu cefnogi’n effeithiol gan dechnoleg ddigidol fel bod staff addysgu yn gallu canolbwyntio ar anghenion dysgwyr.

Nodau cysylltiedig

  • Deall manteision

    Mae'r holl staff, gan gynnwys uwch arweinwyr, yn deall manteision technoleg ddigidol, a rhwystrau posibl i'w cyflawni.

Cydweithio

Anogir cydweithredu â sefydliadau eraill ynghylch technolegau digidol er mwyn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd, osgoi dyblygu, creu arbedion effeithlonrwydd a mynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth.

Nodau cysylltiedig

  • Diwylliant cydweithredol

    Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

Safonau Cysylltiedig

Buddsoddiad strategol

Gwneir buddsoddiadau ariannol o ran cyflwyno a diweddaru technolegau digidol fel rhan o ddull strategol a chynlluniedig o wella cymorth i ddysgwyr, sgiliau a chyflogadwyedd.

Nodau cysylltiedig

  • Cysono adnoddau

    Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi'u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy'n esblygu'n barhaus.

Ymgynghori a gwerthuso

Mae penderfyniadau ynghylch systemau ac offer digidol newydd yn cael eu llywio gan weithgareddau ymgynghori â staff, dysgwyr a defnyddwyr eraill, a’u gwerthuso ar ôl eu gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn cael eu diwallu.

Nodau cysylltiedig

  • Cydlyniad a hygyrchedd Nod cyffredin

    Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy'n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy'n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  • Gwelliant parhaus

    Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.