Myfyrio'n feirniadol ar werthoedd, gwybodaeth a sgiliau eich hun i wella dysgu

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Defnyddio “cyd-beilot” ar sesiynau darparu ar-lein i gynnig adborth
  • Creu arolygon i gael adborth ciplun ar weithgareddau digidol gan ddysgwyr
  • Defnyddio llwyfannau myfyriol Datblygu Gyrfa Broffesiynol i gofnodi a gwerthuso cynnydd yn feirniadol, e.e. Professional Learning Passport
  • Cadw blog myfyriol ar eich profiadau ymarfer dysgu
  • Rhannu myfyrdodau ar ymarfer a phrofiadau proffesiynol
  • Defnyddio gwiriwr gramadeg a theclynnau sillafu i nodi meysydd i’w datblygu yn eich defnydd o iaith
  • Defnyddio gwirwyr arddull ar-lein i ddatblygu eich sgiliau mewn iaith glir, blaen
  • Gwirio tarddiad gwybodaeth a ganfyddir ar-lein gan ddefnyddio data meta neu ddangosyddion eraill

10.1 Datblygu fy sgiliau digidol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n cymryd rhan yn y cyfleoedd i ddatblygu fy ngalluoedd digidol a roddir i mi gan fy sefydliad neu sefydliadau sector.

    Sefydlu

  • Dw i’n ceisio cyfleoedd yn weithredol i asesu a datblygu fy ngalluoedd digidol fy hun.
  • Dw i’n gofyn am adborth ar fy nefnydd fy hun o dechnoleg ddigidol ac yn gweithredu arno i wella fy ymarfer.

Trawsnewid

  • Dw i’n creu cyfleoedd i eraill yn fy sefydliad a thu hwnt i asesu a datblygu eu galluoedd digidol a rhannu eu harbenigedd.

10.2 Datblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd mewn cyd-destunau digidol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio adnoddau digidol ac ar-lein i wella fy sgiliau rhifedd a llythrennedd.

Sefydlu

  • Dw i’n cyfeirio dysgwyr at adnoddau digidol perthnasol i ddatblygu eu rhifedd a llythrennedd eu hunain.

Trawsnewid

  • Dw i’n ymgorffori cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu rhifedd a llythrennedd gyda’r gweithgareddau a mannau digidol a gynlluniaf.

10.3 Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth yn feirniadol

down arrowDangos mwy

Archwilio

-Tra’n chwilio am wybodaeth ar y we ac mewn mannau ar-lein dw i’n defnyddio ffynonellau sefydledig a dibynadwy.

Sefydlu

  • Dw i’n gwerthuso ffynonellau gwybodaeth ar y we yn feirniadol i sefydlu eu dibynadwyedd.
  • Dw i’n gweithredu i helpu cyfyngu ar ledu gwybodaeth annibynadwy neu gamarweiniol lle byddaf yn ei weld.

Trawsnewid

  • Dw i’n rhoi cyfarwyddyd i ddysgwyr a chydweithwyr mewn gwerthuso ffynonellau gwybodaeth ar-lein yn feirniadol.

10.4 Defnyddio teclynnau digidol i ddatblygu fy ymarfer proffesiynol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio systemau sydd ar gael yn gyson i gofnodi cynnydd yn fy natblygiad proffesiynol.
  • Dw i’n gwneud amser i ddadansoddi a myfyrio yn rheolaidd ar fy nghynnydd a gofnodwyd.

Sefydlu

  • Dw i’n defnyddio teclynnau a llwyfannau digidol i rannu fy myfyrdodau ar ymarfer gyda chymheiriaid a chydweithwyr.

Trawsnewid

  • Dw i’n defnyddio myfyrdod beirniadol i ddatblygu ffyrdd newydd, arloesol o weithio neu ddysgu i mi fy hun ac eraill.