Dysgu gwell

Mae dysgu yn cael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio technoleg, lle bynnag y mae’n briodol ac yn fuddiol i’r dysgwr.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Gweledigaeth ac ymrwymiad

    Mae gan uwch-arweinwyr weledigaeth glir ac ymrwymiad i ddefnyddio technolegau digidol a sianeli digidol i wella dysgu a sgiliau.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Cyflawni digidol

    Defnyddir technolegau digidol priodol i wella dulliau darparu dysgu, cefnogi asesiadau a helpu staff i ymateb i ddewisiadau, agweddau a galluoedd unigol dysgwyr.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Goresgyn rhwystrau Amcan cyffredin

    Defnyddir technegau dysgu digidol, adnoddau a dulliau diagnostig mewn ffordd greadigol i helpu i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad a llwyddiant dysgwyr.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Ymgynghori a phartneriaethau Amcan cyffredin

    Mae darparwyr dysgu yn cynnal eu hymwybyddiaeth ynghylch arferion perthnasol y diwydiant ac ynghylch y gofynion presennol o ran sgiliau digidol a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg, drwy ymgynghori a drwy bartneriaethau â chyflogwyr a chymunedau.

Datblygiad staff

  • Ymarfer Myfyriol

    Mae staff addysgu yn gallu sicrhau bod eu defnydd o dechnolegau dysgu yn ychwanegu gwerth at brofiadau dysgwyr drwy ymarfer myfyriol.

Systemau a seilwaith menter

  • Profiad y dysgwr

    Mae profiadau dysgwyr yn cael eu cyfoethogi drwy blatfformau, offer a gwasanaethau digidol difyr a hygyrch o safon uchel.