Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Cymryd rhan mewn grwpiau a fforymau rhanddeiliaid dysgwyr
  • Cyhoeddi erthyglau a chyfarwyddyd ar gyfer gwefannau a blogiau
  • Ymgysylltu â chymunedau ar-lein o ymarfer, cyflogwyr a chyrff sector â chanolbwynt digidol
  • Adeiladu cynlluniau partneriaeth staff/dysgwyr i ddatblygu gwasanaethau cymorth digidol
  • Amlygu enghreifftiau o ymarfer digidol da mewn digwyddiadau y tu allan i’ch sefydliad

8.1 Arddangos arweinyddiaeth

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n arwain wrth reoli prosiectau a gweithgareddau sy’n ymwneud â dysgu wedi ei wella’n ddigidol yn ôl y gofyn.

Sefydlu

  • Dw i’n canfod a chymryd cyfleoedd i helpu ffurfio’r defnydd o dechnolegau digidol i gynorthwyo addysgu a dysgu, i helpu gwella canlyniadau strategol yn fy sefydliad.

Trawsnewid

  • Dw i’n chwarae rôl weithredol mewn eirioli dros y defnydd o dechnoleg ddigidol i gynorthwyo dysgwyr y tu mewn i fy sefydliad yn ogystal â thu hwnt.
  • Dw i’n annog dulliau arloesol yn weithredol i ddefnyddio technoleg mewn addysgu a dysgu.

8.2 Gweithio ar y cyd â chydweithwyr

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n gweithio gyda fy nhîm a chydweithwyr agos eraill i ddatblygu dulliau mewn ymarfer digidol.
  • Dw i’n defnyddio teclynnau deall rhwydweithio cymdeithasol i adeiladu perthnasoedd proffesiynol.

Sefydlu

  • Dw i’n canfod a chymryd cyfleoedd i weithio gydag eraill ar draws fy sefydliad, nid fy nhîm i yn unig, i rannu syniadau, dysgu ac adnoddau.

Trawsnewid

  • Dw i’n mabwysiadu model ymarfer agored, gan rannu adnoddau a syniadau digidol yn ogystal â chyfrannu at a chreu cymunedau newydd o gydweithwyr.

8.3 Gweithio ar y cyd â dysgwyr

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n gweithredu ar adborth ffurfiol ac anffurfiol gan ddysgwyr mewn llunio’r ffordd y defnyddiaf dechnoleg ddigidol i’w cynorthwyo.

Sefydlu

  • Dw i’n creu cyfleoedd i wrando ar leisiau dysgwyr wrth ddatblygu fy ymarfer digidol fy hun ac un fy nhîm a dw i’n gwneud fy hun yn atebol am ymateb iddo.

Trawsnewid

  • Dw i’n gweithio mewn partneriaeth agos â dysgwyr, gan eu galluogi i arwain lle’n briodol, yn llunio’r ffordd mae fy sefydliad a’r sector yn defnyddio technolegau digidol.