Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a'u hasesu eu hunain

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Cynorthwyo datblygiad proffil proffesiynol a phresenoldeb dysgwyr ar-lein
  • Galluogi dysgwyr i ddatblygu eu rhwydweithiau dysgu personol eu hunain
  • Cynllunio ffurfiau asesu wedi eu gwella’n ddigidol sy’n adlewyrchu neu efelychu’r profiad gweithle
  • Annog asesu cymheiriad i gymheiriad ac adborth ar weithgareddau digidol neu ddefnyddio teclynnau cydweithio digidol.

9.1 Galluogi a grymuso dysgwyr

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n darparu’r modd i ddysgwyr gofnodi eu nodau dysgu a chynnydd gan ddefnyddio teclynnau digidol.

Sefydlu

  • Dw i’n defnyddio teclynnau digidol i roi adborth amserol a manwl i ddysgwyr ar eu cynnydd, gan eu galluogi i wella eu canlyniadau dysgu.

Trawsnewid

  • Yn seiliedig ar yr adborth a gynigiaf, dw i’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu a chynnydd eu hunain, ac i osod eu targedau eu hunain.

9.2 Galluoedd digidol dysgwyr

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n helpu dysgwyr i wneud defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol ar gyfer eu dysgu.

Sefydlu

  • Dw i’n annog dysgwyr i fyfyrio ar gryfderau a chyfyngiadau eu galluoedd digidol eu hunain.
  • Dw i’n helpu dysgwyr i nodi strategaethau addas er mwyn datblygu ymhellach ac i gymhwyso eu medrusrwydd digidol mewn sefyllfaoedd a chyd-destunau newydd.

Trawsnewid

  • Dw i’n gweithio mewn partneriaeth â dysgwyr i’w galluogi i ddatblygu a chymhwyso eu galluoedd digidol mewn ffyrdd creadigol ac arloesol neu mewn cyd-destunau annisgwyl.
  • Dw i’n helpu dysgwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol i ddatrys problemau byd go iawn.

9.3 Cynorthwyo cyflogadwyedd dysgwyr

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Lle’n briodol dw i’n defnyddio llwyfannau a theclynnau digidol penodol i’r diwydiant gyda dysgwyr i’w harfogi ar gyfer y gweithle.
  • Dw i’n defnyddio gofynion cyflogwyr a roddir i mi i ymgorffori nodweddion digidol gweithle i brofiad y dysgwr o fyfyriwr.

Sefydlu

  • Dw i’n creu profiadau dysgu sy’n cynorthwyo trawsnewid effeithiol o fyd dysgu i waith.
  • Lle’n bosibl, dw i’n gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr a dysgwyr i nodi a datblygu nodweddion trosglwyddadwy a galluoedd digidol yn rhagweithiol yn y gweithle.

Trawsnewid

  • Dw i’n cyfrannu at ddatblygu nodweddion cyflogadwyedd o fewn cynllunio a darparu cwricwlwm.
  • Dw i’n cynorthwyo fy sefydliad i adeiladau’r rhain i mewn i’w bolisïau a phrosesau.