Diwylliant cydweithredol

Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Cydweithio effeithiol

    Mae uwch-arweinwyr a rheolwyr yn meithrin diwylliant o gydweithredu (o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid eraill), sy’n galluogi defnydd effeithiol o arbenigedd ac adnoddau i reoli a gwella’r defnydd o dechnoleg.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Dulliau arloesol Amcan cyffredin

    Mae staff wedi’u grymuso i archwilio dulliau arbrofol ac arloesol o ran dysgu digidol, i werthuso a myfyrio ynghylch y deilliannau ac i rannu arferion da a’r gwersi a ddysgwyd.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Gweithio mewn partneriaeth

    Mae gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gweithio gyda sefydliadau arbenigol, yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynhwysiant digidol, hygyrchedd a llesiant dysgwyr.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Sgiliau yn y gweithle

    Mae darpariaeth ddysgu sydd wedi’i galluogi’n ddigidol wedi’i chynllunio i adlewyrchu arferion y diwydiant ac ymwybyddiaeth ynghylch y gofynion presennol o ran sgiliau digidol yn y gweithle a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg.

Datblygiad staff

  • Cyfranogiad cymunedol

    Mae staff yn gwella ac yn diweddaru eu cymhwysedd digidol drwy gymryd rhan weithredol mewn cymunedau maes, digwyddiadau a rhwydweithiau yn eu sefydliad eu hunain a thu hwnt.

Systemau a seilwaith menter

  • Cydweithio

    Anogir cydweithredu â sefydliadau eraill ynghylch technolegau digidol er mwyn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd, osgoi dyblygu, creu arbedion effeithlonrwydd a mynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth.