Cysono adnoddau

Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi’u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy’n esblygu’n barhaus.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Cydweithio effeithiol Amcan cyffredin

    Mae uwch-arweinwyr a rheolwyr yn meithrin diwylliant o gydweithredu (o fewn y sefydliad a chyda phartneriaid eraill), sy’n galluogi defnydd effeithiol o arbenigedd ac adnoddau i reoli a gwella’r defnydd o dechnoleg.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Mannau dysgu

    Mae darparwyr yn galluogi addysgu, dysgu, asesu a chymorth effeithiol, hygyrch a chynhwysol drwy gydgysylltu mannau dysgu rhithwir a ffisegol.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Goresgyn rhwystrau

    Defnyddir technegau dysgu digidol, adnoddau a dulliau diagnostig mewn ffordd greadigol i helpu i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad a llwyddiant dysgwyr.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Sgiliau yn y gweithle Amcan cyffredin

    Mae darpariaeth ddysgu sydd wedi’i galluogi’n ddigidol wedi’i chynllunio i adlewyrchu arferion y diwydiant ac ymwybyddiaeth ynghylch y gofynion presennol o ran sgiliau digidol yn y gweithle a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg.

Datblygiad staff

  • Ymarfer Myfyriol Amcan cyffredin

    Mae staff addysgu yn gallu sicrhau bod eu defnydd o dechnolegau dysgu yn ychwanegu gwerth at brofiadau dysgwyr drwy ymarfer myfyriol.

Systemau a seilwaith menter

  • Buddsoddiad strategol

    Gwneir buddsoddiadau ariannol o ran cyflwyno a diweddaru technolegau digidol fel rhan o ddull strategol a chynlluniedig o wella cymorth i ddysgwyr, sgiliau a chyflogadwyedd.