Cynllunio a darparu dysgu, addysgu ac asesu effeithiol

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Defnyddio fforymau trafod, ystafelloedd sgwrsio a mannau cymdeithasol eraill i gysylltu dysgwyr
  • Cynnwys gweithgareddau digidol mewn cynlluniau dysgu/gwersi
  • Defnyddio amlgyfrwng a thechnolegau sy’n trwytho i greu profiadau dysgu dymunol
  • Annog defnydd o ddyfeisiau dysgwyr lle’n briodol
  • Cofnodi ymarfer digidol da mewn arsylwadau addysgu
  • Storio cynlluniau gwersi a darlithoedd mewn fformatau digidol

7.1 Cynnwys ac adnoddau digidol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio ystod cyfyngedig o declynnau digidol i drosi deunyddiau sy’n bodoli a mathau o ddeunyddiau i fformatau digidol.
  • Dw i’n rheoli a storio’r adnoddau digidol a ddefnyddiaf yn effeithiol.

Sefydlu

  • Dw i’n defnyddio ffurfiau digidol o adnoddau a gweithgareddau sy’n gwella’r profiad dysgu.
  • Dw i’n defnyddio ystod eang o fathau gwahanol o declynnau creu cynnwys.

Trawsnewid

  • Dw i’n canfod ffyrdd arloesol o ddefnyddio teclynnau a thechnolegau sy’n bodoli neu rai newydd i greu gwrthrychau dysgu.
  • Dw i’n defnyddio adnoddau a chynnwys digidol mewn ffyrdd creadigol i gynllunio a rhedeg profiadau dysgu na fyddai’n bosibl fel arall.

7.2 Darparu (wyneb yn wyneb)

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio llwyfannau a theclynnau digidol ar gael i mi gan fy sefydliad i sicrhau ymgysylltu a rhyngweithio â yn ogystal a rhwng dysgwyr yn y cnawd.

Sefydlu

  • Yn ogystal â llwyfannau a theclynnau sefydliadol, dw i’n archwilio’r defnydd o declynnau digidol 3ydd parti priodol, diogel sy’n cynorthwyo addysgu a dysgu
  • Dw i’n hwyluso dysgu gweithredol a chymdeithasol mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn estyn dysgwyr a gwella canlyniadau.

Trawsnewid

  • Dw i’n defnyddio ystod eang o declynnau sefydliadol a/neu ddigidol 3ydd parti priodol, diogel sy’n cynorthwyo addysgu a dysgu
  • Dw i’n annog cyd-greu gyda dysgwyr o brofiadau dysgu gweithredol, arloesol.

7.3 Darparu (ar-lein)

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n gallu hwyluso gweithgareddau dysgu cydamserol ac anghydamserol mewn amgylcheddau dysgu ar-lein.

(Mae cydamserol yn golygu gweithgareddau sy’n cael eu cynnal “yn fyw” fel gweminar ar-lein. Mae anghydamserol yn golygu gweithgareddau lle nad oes rhaid i bobl eu cyflawni ar yr un adeg yn union, fel fforwm drafod ar-lein)

Sefydlu

  • Dw i’n defnyddio teclynnau a llwyfannau digidol i gynllunio a darparu cynlluniau gwaith a chyrsiau strwythuredig sy’n cyfuno gweithgaredd ar-lein â dysgu wyneb yn wyneb yn llwyddiannus.

Trawsnewid

  • Dw i’n arddangos y gallu i addasu fy sgiliau i hwyluso dysgu mewn cyd-destunau ar-lein yn gyfan gwbl a dysgu cymysg.

7.4 Llythrennedd gwybodaeth a chyfryngau

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n cadw at safonau cyfreithiol a phroffesiynol ar gyfer diogelu eiddo deallusol (IP) a hawlfraint wrth ddewis cyfryngau ac adnoddau i’w defnyddio yn fy swydd.

Sefydlu

  • Dw i’n creu a rhannu fy neunyddiau digidol gwreiddiol neu addasedig fy hun sydd wedi eu labelu’n glir ar gyfer eiddo deallusol. Dw i’n cydnabod fy ffynonellau ac yn cymhwyso’r telerau defnyddio cywir.

Trawsnewid

  • Dw i’n eirioli dros safonau ymarfer uchel a chyson mewn Eiddo Deallusol gyda dysgwyr, cydweithwyr a chymheiriaid.