Cynnal a diweddaru gwybodaeth o'm pwnc/pynciau a sut i'w haddysgu a'u hasesu orau

Enghreifftiau o weithgareddau

  • Ymrwymo i gyfleoedd Datblygu Gyrfa Broffesiynol i ddyfnhau neu adnewyddu gwybodaeth am eich pwnc
  • Cydweithredu â diwydiant trwy gymryd rhan mewn rhwydweithiau proffesiynol
  • Recordio yn ddigidol unrhyw ddigwyddiadau Datblygu Gyrfa Broffesiynol/cynadleddau a fynychwyd, gan fyfyrio ar eich dysgu mewn blogiau neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol. Rhannu eich dysgu Datblygu Gyrfa Broffesiynol yn weithredol â chydweithwyr a’r gymuned ehangach.

5.1 Cadw gwybodaeth am fy mhwnc yn gyfredol

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n defnyddio adnoddau ar-lein dibynadwy i gadw’n wybodus am fy mhwnc ac i ymgorffori’r wybodaeth hon i’m haddysgu neu ymarfer.

Sefydlu

  • Yn ogystal ag adnoddau digidol, dw i’n datblygu fy arbenigedd ym maes fy mhwnc trwy gymryd rhan mewn cymunedau perthnasol ar-lein.

Trawsnewid

  • Dw i’n chwarae rôl weithredol mewn darparu Datblygiad Gyrfa Broffesiynol ar fy mhwnc i fy nghymheiriaid trwy greu fy neunyddiau digidol fy hun neu rannu fy syniadau a myfyrdodau fy hun.
  • Lle’n bosibl dw i’n cyfrannu at hyrwyddo arbenigedd digidol o fewn fy mhwnc y tu allan i’r amgylchedd dysgu.

5.2 Datblygu fy ymarfer fel athro yn fy arbenigaeth

down arrowDangos mwy

Archwilio

  • Dw i’n ymgorffori newidiadau digidol a thechnolegol diweddar yn fy arbenigaeth i addysgu a dysgu lle gallaf.

Sefydlu

  • Dw i’n ymgysylltu â chydweithwyr yn y pwnc o fewn a thu hwnt i fy sefydliad i wella fy ngwybodaeth arbenigol o sut i ddefnyddio technoleg mewn darparu dysgu, a gwella fy ymarfer yng ngoleuni’r hyn a ddysgaf

Trawsnewid

  • Dw i’n defnyddio rhwydweithiau a thanysgrifiadau pellgyrhaeddol i wella fy nealltwriaeth a defnydd o dechnoleg yn arbenigaeth fy mhwnc, gan gynnwys ymgysylltu ag arweinyddion sector, cadw’n wybodus am yr ymchwil diweddaraf, a chymryd rhan mewn cynadleddau a hyfforddiant