Deall pwysigrwydd y diwylliant a'r iaith Gymraeg fel cenedl ddwyieithog
Enghreifftiau o weithgareddau
- Defnyddio rhyngwyneb llwyfan, trawsgrifio, capsiynu caeëdig a theclynnau cyfieithu
- Defnyddio llwyfannau dysgu iaith ar-lein fel SSiW neu Duolingo
- Defnyddio teclynnau digidol a ddarperir yn genedlaethol i gynorthwyo ymarfer e.e. Hwb, Professional Learning Passport.
- Ymgorffori agweddau o hunaniaeth Gymreig a iaith Gymraeg i broffiliau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
- Bod yn ymwybodol o a chodi ymwybyddiaeth o ddatblygiadau adnoddau dwyieithog o fewn eich pwnc
- Defnyddio llwyfan Professional Learning Passport a lle’n berthnasol eich proffil cyfryngau cymdeithasol i adlewyrchu Datblygu Gyrfa Broffesiynol/sgiliau parhaus
3.1 Dysgu iaith gan ddefnyddio teclynnau a llwyfannau ar-lein
Dangos mwy
Archwilio
- Dw i’n gweithio i wella fy sgiliau yn yr iaith Gymraeg trwy ddefnyddio adnoddau dysgu ac apiau.
Sefydlu
- Dw i’n gwella fy nefnydd o’r iaith Gymraeg trwy gydweithredu ar-lein
Trawsnewid
- Dw i’n datblygu fy nheclynnau digidol fy hun neu fannau ar-lein i gynorthwyo fy hun ac eraill i ddysgu a defnyddio Cymraeg
3.2 Integreiddio’r iaith Gymraeg i amgylcheddau dysgu
Dangos mwy
Archwilio
- Dw i’n defnyddio ac yn addasu adnoddau dysgu digidol dwyieithog i gynorthwyo fy nefnydd o’r iaith Gymraeg
Sefydlu
- Dw i’n creu deunyddiau dysgu digidol newydd sy’n estyn a datblygu sgiliau a hyder iaith Gymraeg dysgwyr.
Trawsnewid
- Dw i’n cynorthwyo eraill i estyn a gwella eu defnydd o Gymraeg mewn profiadau dysgu digidol.
3.3 Hyrwyddo diwylliant Cymreig a defnydd o’r iaith Gymraeg mewn cymunedau ar-lein
Dangos mwy
Archwilio
- Dw i’n hyrwyddo a dathlu Diwylliant a Hunaniaeth Cymreig mewn cymunedau ar-lein gyda fy nysgwyr ac yn fy sefydliad.
Sefydlu
- Dw i’n hyrwyddo a dathlu Diwylliant a Hunaniaeth Cymreig mewn cymunedau â chanolbwynt rhanbarthol neu genedlaethol.
Trawsnewid
- Dw i’n hyrwyddo a dathlu Diwylliant a Hunaniaeth Cymreig mewn cymunedau ar-lein gyda chenhedloedd eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.
Amcanion cysylltiedig
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu
Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau
Datblygiad staff