Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb cyfle a chynhwysiad
Enghreifftiau o weithgareddau
- Defnyddio nodweddion cynhenid systemau fel eich VLE neu apiau Desktop sy’n cynorthwyo hygyrchedd
- Defnyddio technolegau i greu gweithgareddau ar lefelau a chyflymderau gwahanol
- Defnyddio amrywiaeth o gyfryngau digidol, nid testun yn unig. Defnyddio fideos, cwisiau, gemau, graffeg gwybodaeth, animeiddiadau ayb
- Cymryd rhan mewn cymunedau ymarfer ar-lein gyda chanolbwynt ar hygyrchedd.
- Cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddiant gan ganolbwyntio ar amrywiaeth, cydraddoldeb, a chynhwysiad
- Amlygu ymarfer da mewn amrywiaeth, hygyrchedd, a chynhwysiad mewn digwyddiad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol.
- Cyhoeddi erthyglau a chyfarwyddyd i wefannau cenedlaethol cydnabyddedig a blogiau ar faterion hygyrchedd.
2.1 Hygyrchedd
Dangos mwy
Archwilio
- Dw i’n ystyried materion hygyrchedd bob amser wrth gyflwyno technolegau newydd a dw i’n sicrhau bod dysgwyr â mynediad digidol cyfyngedig yn cael cynnig o gymorth.
- Dw i’n dangos fy mod i’n deall y gall technolegau digidol atal neu wella hygyrchedd a dw i’n tynnu sylw at hyn a chynnig cymorth priodol.
SefydluSefydlu
- Dw i’n caffael a darparu cynnwys digidol i ddysgwyr ag anghenion amrywiol (e.e. dysgwyr sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol neu ryngwynebau addasedig).
- Dw i’n cynnwys dysgwyr ag anghenion amrywiol wrth greu deunyddiau ar gyfer amgylcheddau digidol.
Trawsnewid
- Dw i’n hyfforddi eraill o fewn y sefydliad ar sut i sefydlu hygyrchedd mewn ymarferion digidol.
- Dw i’n ymgysylltu’n weithredol â chymunedau ymarfer a chyrff sector gyda chanolbwynt hygyrchedd mewn ffordd sy’n symud fy ymarfer i ac ymarfer y gymuned ymlaen.
2.2 Gwahaniaethu a chydraddoldeb
Dangos mwy
Archwilio
- Dw i’n defnyddio ystod o gyfryngau digidol yn fy nysgu sy’n cynorthwyo gwahaniaethu a phersonoleiddio i alluogi dysgwyr i ddysgu mewn ffyrdd gwahanol.
- Dw i’n sicrhau mynediad cyfartal at y technolegau digidol y byddaf yn eu defnyddio ar gyfer yr holl ddysgwyr.
Sefydlu
- Dw i’n golygu neu addasu deunyddiau digidol i weddu i fy nysgwyr.
- Dw i’n defnyddio teclynnau digidol i greu adnoddau gwahaniaethol sy’n ateb anghenion fy nysgwyr.
- Dw i’n greadigol wrth asesu, felly mae gan ddysgwyr ffyrdd gwahanol o lwyddo.
Trawsnewid
- Dw i’n hyfforddi eraill o fewn y sefydliad ar wahaniaethu a chydraddoldeb mewn ymarferion digidol.
- Dw i’n ymgysylltu’n weithredol â chymunedau ymarfer ar-lein a rhanddeiliaid gyda chanolbwynt ar wahaniaethu a chydraddoldeb mewn ffordd sy’n symud fy ymarfer i ac ymarfer y gymuned ymlaen.
2.3 Cynwysoldeb ac amrywiaeth
Dangos mwy
Archwilio
- Wrth gyfathrebu neu gynhyrchu adnoddau digidol NEU yn fy ymarfer addysgu, dw i’n defnyddio iaith a delweddau sy’n adlewyrchu ymarfer amrywiaeth a chynhwysiad.
- Dw i’n ymgynghori ac yn gweithredu ar adborth gan ddysgwyr i sicrhau bod deunyddiau digidol yn gynhwysol.
Sefydlu
- Dw i’n creu a rhannu gwrthrychau dysgu digidol sy’n adlewyrchu amrywiaeth a chynhwysiad yn fy ymarfer.
- Dw i’n cyd-greu deunyddiau digidol gyda dysgwyr i leihau rhwystrau rhag dysgu ac yn annog cyfranogaeth.
Trawsnewid
- Er mwyn codi safonau, dw i’n darparu cyfleoedd datblygu i staff i sicrhau bod y pobl dw i’n gweithio gyda hwy yn ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiad i’w hymarferion digidol.
Amcanion cysylltiedig
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm
Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu