Archwilio
- Dw i’n gallu hwyluso gweithgareddau dysgu cydamserol ac anghydamserol mewn amgylcheddau dysgu ar-lein.
(Mae cydamserol yn golygu gweithgareddau sy’n cael eu cynnal “yn fyw” fel gweminar ar-lein. Mae anghydamserol yn golygu gweithgareddau lle nad oes rhaid i bobl eu cyflawni ar yr un adeg yn union, fel fforwm drafod ar-lein)
Sefydlu
- Dw i’n defnyddio teclynnau a llwyfannau digidol i gynllunio a darparu cynlluniau gwaith a chyrsiau strwythuredig sy’n cyfuno gweithgaredd ar-lein â dysgu wyneb yn wyneb yn llwyddiannus.
Trawsnewid
- Dw i’n arddangos y gallu i addasu fy sgiliau i hwyluso dysgu mewn cyd-destunau ar-lein yn gyfan gwbl a dysgu cymysg.