Cydlyniad a hygyrchedd

Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy’n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy’n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Sefydliad digidol

    Mae prosesau, rhwydweithiau a sianeli priodol ar waith i hwyluso a chefnogi’r gwaith o rannu arferion da o ran technolegau digidol a sgiliau digidol.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Ymarfer cynhwysol

    Defnyddir offer, technolegau a systemau cynhwysol yn briodol i gefnogi, ymestyn a herio dysgwyr, ac ymgysylltu â nhw.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Uchafu potensial

    Gall dysgwyr o bob cefndir a gallu gyflawni hyd eithaf eu potensial drwy ddefnyddio technoleg ddigidol i gynyddu hyblygrwydd a chefnogi dysgu annibynnol.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Yr Iaith Gymraeg

    Mae darparwyr dysgu yn ystyried cyfleoedd perthnasol i ddysgwyr ddefnyddio, gwella a magu hyder wrth ddefnyddio sgiliau Cymraeg wrth gynllunio a gweithredu technolegau digidol newydd.

Datblygiad staff

  • Cyfleoedd Dysgu

    Mae mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol yn datblygu hyder staff wrth ddefnyddio technegau cyflawni digidol, ynghyd â’u gallu i nodi technolegau, offer a dyfeisiau addas i gefnogi eu gwaith.

Systemau a seilwaith menter

  • Ymgynghori a gwerthuso Amcan cyffredin

    Mae penderfyniadau ynghylch systemau ac offer digidol newydd yn cael eu llywio gan weithgareddau ymgynghori â staff, dysgwyr a defnyddwyr eraill, a’u gwerthuso ar ôl eu gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn cael eu diwallu.