Profiad diogel

Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a’i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Polisi a chydymffurfiaeth

    Mae cynwysoldeb, sgiliau digidol a’r defnydd o dechnoleg ac adnoddau digidol wedi’u cynnwys mewn polisïau sefydliadol craidd. Mae staff a dysgwyr yn deall polisïau, ac maent yn dangos llinellau atebolrwydd clir o ran cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, diogelwch, diogelu, hygyrchedd a diogelu data.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Ymarfer cynhwysol Amcan cyffredin

    Defnyddir offer, technolegau a systemau cynhwysol yn briodol i gefnogi, ymestyn a herio dysgwyr, ac ymgysylltu â nhw.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Cynorthwyo dysgwyr

    Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu nodau drwy gasglu a dadansoddi gwybodaeth am eu priodoleddau, eu presenoldeb, eu cynnydd a’u deilliannau.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Llesiant ar-lein

    Mae dysgwyr yn deall y cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg, gan gynnwys diogelwch ar-lein, defnydd cyfrifol o’r cyfryngau cymdeithasol a rheoli enw da ar-lein.

Datblygiad staff

  • Cyfrifoldebau staff

    Mae gan yr holl staff ddealltwriaeth glir o’u cyfrifoldebau unigol o ran dysgu digidol, llesiant a diogelwch ar-lein.

Systemau a seilwaith menter

  • Cydymffurfio

    Mae profiad digidol diogel a chadarn yn cael ei ddarparu i’r holl ddysgwyr a staff, gan gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a’r safonau perthnasol (gan gynnwys hygyrchedd).