Beth yn ein barn ni fydd darpariaeth ddigidol ymhen pum mlynedd?

Joe Pilgrim

Joe Pilgrim (ACT)

Gallai darpariaeth ddigidol fod yn hollol wahanol. Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad gan bawb i sicrhau bod y seilwaith yn ei le.

Er enghraifft, rwy’n credu y gallai realiti estynedig effeithio’n sylweddol ar hyfforddiant galwedigaethol ymarferol fel Cerbydau Modur. Fodd bynnag, ni wnaiff hyn weithio oni bydd y dyfeisiau ar gael i’r dysgwyr, y feddalwedd ar gael i ddarparwr yr hyfforddiant, a bod sgiliau technegol i greu’r cymwysiadau yn cael eu datblygu ymhlith staff.

Beth fydd plant a wyrion Cymru yn ei weld mewn colegau, ystafelloedd dosbarth a lleoedd gwaith?

Mae angen i amgylcheddau dysgu’r dyfodol fod yn fwy rhyngweithiol. Pingio cynnwys ar ddyfais wrth i’r dysgwr gerdded heibio, yn hytrach na phoster ‘goddefol’ wedi’i lynu ar wal. Ni ddylai ystafelloedd dosbarth gael eu cyfyngu i’r lleoliad y maent ynddo, a dylid galluogi mwy o gydweithredu trwy dechnoleg ar draws trefi, darparwyr, a hyd yn oed gwledydd. Gellid galluogi hyn trwy greu ystafelloedd cyfarfod rhithiol (efallai’n defnyddio gwasanaethau fel appear.in), a gaiff eu sefydlu gan y Llywodraeth i’w defnyddio gan ddarparwyr.

Pa dechnolegau, adnoddau a thechnegau fydd yn gwneud gwahaniaeth i’w profiad dysgu? Gallai Sgriniau Rhithiol ganiatáu i unrhyw wal fod yn gynfas rhyngweithiol, gan alluogi nifer o ddefnyddwyr i ysgrifennu a rhannu cynnwys rhyngddynt. Bydd yr holl gynnwys yn cael ei gyfuno drwy’r cwmwl felly bydd nodiadau a recordiadau’n cael eu llwytho i fyny yn awtomatig cyn gynted ag y byddant yn gadael y lle ffisegol. Gallai hyn gyfrannu at gwmwl dysgu gydol oes, ble caiff adnoddau eu cofnodi a’u tagio; gan sicrhau y gellir eu hadalw’n rhwydd yn y dyfodol. Byddai’r banc gwaith hwn yn bortffolio a fyddai’n aros gyda’r dysgwr a gellid ei ddefnyddio i gyfeirio ato, neu i ddangos tystiolaeth o gymhwysedd.

Beth fydd arnyn nhw ei eisiau a’i angen ar gyfer eu dysgu?

Mae mynediad i ryngrwyd cyflym a dibynadwy yn hollbwysig. Bydd dyfeisiau corfforol yn ystod y blynyddoedd nesaf yn bwysig i gael gafael ar gynnwys, ond gobeithio, bydd dibynnu ar hyn yn symud o galedwedd i feddalwedd a gwasanaethau y gellid eu darparu trwy law Llywodraeth Cymru. Bydd cysylltedd 5G lle bynnag y bo modd yn lleihau effaith gwasanaeth rhyngrwyd ffibr gwael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.