Beth yn ein barn ni fydd darpariaeth ddigidol ymhen pum mlynedd?

Dyma Jim

Mae Jim yn 8 ac yn yr ysgol iau.Mae wedi cael diagnosis o nam ar y golwg ac, er ei fod yn gwisgo sbectol, mae’n cael trafferth â dulliau dysgu traddodiadol.

Felly, beth fydd Jim yn ei ddisgwyl yn 2030?

Erbyn 2030, trwy ddylunio cyrsiau effeithiol sy’n cynnwys arferion hygyrchedd a chynhwysiant cadarn, bydd Jim yn gallu addasu ei amgylchedd dysgu digidol a’i adnoddau yn yr un modd ag y gallai dysgwyr eraill bersonoli eu rhai hwy.

Byddai Jim yn disgwyl i’w “osodiadau” dewisol fod yn gludadwy ac yn rhan o’i ID myfyriwr digidol fel ei fod yn gallu cael mynediad i’w waith pryd bynnag y bydd yn mewngofnodi i unrhyw ddyfais.

Yn ychwanegol, gan ddefnyddio data a gaiff eu casglu drwy ei weithgareddau dysgu, mae Jim yn disgwyl gallu monitro ei gynnydd yn erbyn ei dargedau ei hun a’r rhai a osodwyd gan ei athrawon, ei diwtoriaid a’i hyfforddwyr.