Beth yn ein barn ni fydd darpariaeth ddigidol ymhen pum mlynedd?

Dyma Harry

Mae Harry yn 15 oed ac mae’n dymuno bod yn adeiladwr. Mae’n gobeithio dod yn brentis a bod yn berchen ar a rhedeg ei fusnes ei hun un diwrnod.

Mae Harry yn hyderus iawn ac yn alluog o safbwynt ymarferol ond mae’n gwybod bod angen iddo fod yn “ddewin digidol” er mwyn gallu llwyddo yn y gweithle ac fel cyflogwr.

Felly, beth fyddai Harry yn ei ddisgwyl yn 2030?

Yn 2018, dim ond 50% o fyfyrwyr AB oedd yn credu bod sgiliau digidol yn bwysig ar gyfer eu gyrfa ddewisedig a dim ond 41% oedd yn credu bod eu cwrs yn eu paratoi at y gweithle digidol.

Mae Harry yn disgwyl cael mynediad at y feddalwedd safon diwydiant ddiweddaraf i sicrhau bod ei ddysgu yn gyfredol ac yn berthnasol.

Mae’n disgwyl i’w athrawon, ei diwtoriaid a’i hyfforddwyr allu defnyddio systemau digidol yn fedrus fel y gall gael gafael ar ddeunyddiau dysgu deniadol o ansawdd uchel.

Mae Harry yn disgwyl gallu defnyddio technoleg ddigidol i gydweithio â darpar fasnachwyr eraill er mwyn iddynt allu dysgu oddi wrth ei gilydd a’u cynorthwyo ei gilydd. Nid oes ots ganddo a yw hyn yn VLE neu’n gymhwysiad cydweithredol arall, cyn belled â’i fod yn ddiogel, a’i fod yn gweithio.