Gadewch i mi eich cyflwyno i Brooke.
Brooke yw fy wyres.
Nid yw Brooke wedi dechrau yn yr ysgol eto ond mae’n ddigon posibl mai eich myfyriwr chi fydd hi yn 2030.
Mae Brooke yn eithaf peniog - mae hi’n adnabod ei lliwiau a’i siapiau, gall gyfrif i 20 a chanu cân y wyddor. Mae ganddi hefyd ei chyfrifiadur llechen ei hun (Kindle Fire for Kids) ac mae’n ei ddefnyddio i chwarae gemau, datrys posau, lliwio, dysgu caneuon, gwylio rhaglenni teledu i blant a llawer mwy. Mae gan Mam iPhone ac mae Brooke yn gallu defnyddio hwn yn eithaf didrafferth hefyd. Mae gan Nana ddyfais Android a, dyfalwch beth? Nid yw hwn yn achosi unrhyw broblemau chwaith.
Mae Brooke eisoes yn gallu defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn llwyddiannus trwy ofyn i Alexa chwarae Wheels on the Bus neu Baby Shark.
Fel y rhan fwyaf o blant 3 oed, mae hi hefyd yn mwynhau cwmni pobl eraill - dyma lle mae’n cael sgiliau cymdeithasol, ei deallusrwydd dynol, ei “chod moesol” ac ati.
Felly, beth fydd Brooke yn ei ddisgwyl yn 2030?
Teclynnau a “gizmos”
Mae’n debygol iawn y bydd Brooke yn gwneud defnydd o declynnau nad ydynt wedi cael eu dyfeisio eto neu rai a fydd wedi’u datblygu ymhell y tu hwnt i’w galluoedd presennol.
Bydd Brooke yn defnyddio dyfeisiau yn gynyddol i hwyluso “dysgu gweithredol” gan ganiatáu iddi gydweithio â chymheiriaid neu AI. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ddyfeisiau, neu gymwysiadau, allu gwneud defnydd cynyddol o unrhyw systemau gweithredu.
Yn 2018, nododd tua 10% o ddysgwyr AB mai Google Search oedd eu hoff ap neu adnodd.Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i ddod yn llawer iawn mwy amlwg ym maes ymchwil ar-lein erbyn 2030.
Dysgu wedi’i bersonoli a’i gydamseru: Bydd Brooke yn disgwyl cael gafael ar a storio ei dysgu ar unrhyw un o’i dyfeisiau, yn unrhyw le ac yn unrhyw fan.Bydd hefyd wedi llunio cyfres o Apiau i’w gweithgareddau dysgu ac yn eu tanategu.
Bydd Brooke yn disgwyl gallu defnyddio ei dyfais ei hun i’w cynorthwyo i ddysgu. Bydd angen cysylltedd wifi cadarn, grymus ac o ansawdd uchel yn ei holl leoliadau dysgu.