Datganiad hygyrchedd ar gyfer https://digidol2030cymru.jisc.ac.uk/

Mae'r datganiad hwn yn gymwys i gynnwys a gyhoeddir ar https://digidol2030cymru.jisc.ac.uk/

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Jisc. Mae hi wedi'i chynllunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai'r testun fod yn glir ac yn syml i'w ddeall. Dylech chi allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • Chwyddo i mewn hyd at 400% heb broblemau
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • Defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

  • Nid yw rhai disgrifiadau cynnwys a fersiynau testun amgen yn gyflawn

Bydd y wefan hon yn cael ei hadolygu a'i diweddaru ym mis Awst 2024.

Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi.

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, galwch neu e-bostiwch ni am gyfarwyddiadau.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Os ydych yn canfod unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn ateb gofynion rheoliadau hygyrchedd, defnyddiwch y botwm 'gweld problem' ar waelod pob tudalen. Gallwch hefyd ddefnyddio ein tudalen Cysylltu â ni neu anfon e-bost at help@jisc.ac.uk

Gweithdrefn orfodi

Os ydych yn cysylltu â ni ac nad ydych yn hapus â'n hymateb cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Jisc wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol (rhif 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Gwefannau wedi'u harchifo

Rydym yn pwyntio weithiau at gopïau wedi'u harchifo o hen wefannau. Bydd problemau yn debygol gyda'r copïau hyn. Gan fod cipluniau wedi'u cymryd gan drydydd parti nid ydym yn gallu diweddaru'r rhain. Fel safleoedd wedi'u harchifo fodd bynnag, maen nhw wedi'u heithrio rhag diwallu'r rheoliadau hygyrchedd.

Adnoddau trydydd parti

Mae'r wefan yn cysylltu ag adnoddau a chynnwys trydydd parti nad yw o bosibl yn ateb safonau hygyrchedd. Nid yw'r cynnwys trydydd parti o dan ein rheolaeth ac ni thalodd Jisc amdano na'i ddatblygu. Oherwydd hynny nid yw yng nghwmpas y rheoliadau.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 18 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 21 Ionawr 2022.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 12fed Ionawr 2022. Cafodd y profi ei gwblhau gan staff Jisc.

Cafodd teclynnau hygyrchedd Wave, Web2access a Siteimprove eu defnyddio i asesu hygyrchedd y safle hwn.