Cyflwyno’r ganllaw

Bydd angen sgiliau a phrofiadau digidol ar ddysgwyr heddiw er mwyn defnyddio’r ystod gynyddol o offer a thechnolegau yng ngweithleoedd y dyfodol. Bydd raid i addysg newid i fanteisio ar y rhain er mwyn darparu gweithlu sy’n gallu cwrdd â’r heriau newydd hyn. Mae dysgwyr yn disgwyl profiad addysg sy’n adlewyrchu’r ffordd y maent yn byw, cyfathrebu a dysgu.

Amcangyfrifir y bydd 90 y cant o swyddi, o fewn yr 20 mlynedd nesaf, yn cynnwys elfen sy’n gofyn am sgiliau digidol.

Ffynhonnell: Ffilm fideo o Matt Hancock AS, Y Gwir Anrhydeddus Weinidog Gwladol dros Ddigidol, a ddyfynnwyd yn Hanfodion Dysgu Cyfunol 3, Hydref 2017

Fframwaith strategol yw Digital 2030 sy’n mynegi’n gweledigaeth, nodau ac amcanion cyffredinol ar gyfer dysgu digidol ôl-16. Fe’i sbardunwyd gan y sector ôl-16, trwy GolegauCymru, a datblygwyd y fframwaith mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid, arweinwyr a staff o bob rhan o’r sector.

Defnyddio’r ganllaw

Mae’r ganllaw ar gyfer colegau, darparwyr dysgu yn y gweithle ac addysg oedolion.

Dewiswch thema sy’n berthnasol i’ch rôl, neu bwriwch olwg dros y weledigaeth, y nodau a’r amcanion. Mae yma lawer o adnoddau ac enghreifftiau ymarferol i’ch helpu ar eich taith ddigidol 2030.

Datblygu’r ganllaw

Os hoffech chi rannu eich syniadau, adnoddau neu storïau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.