Safonau digidol

Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a’r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

Amcanion cysylltiedig

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Diwylliant digidol

    Mae staff, dysgwyr a phartneriaid wedi’u grymuso i dderbyn perchenogaeth o’u defnydd o dechnolegau digidol ac maent yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau digidol mewn diwylliant sefydliadol cadarnhaol a chefnogol.

Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

  • Sgiliau dysgwyr

    Mae’r holl ddysgwyr yn cyrraedd lefel o sgiliau digidol sy’n briodol i’w rhaglen ddysgu a’u nodau unigol.

  • Cynnydd dysgwyr

    Defnyddir dull diagnostig i asesu sgiliau digidol dysgwyr ac fel llinell sylfaen i fesur eu cynnydd a’u deilliannau.

Ehangu cyfranogiad a chymorth dysgu

  • Arweiniad a chymorth Amcan cyffredin

    Mae arweiniad a chymorth ar gael i helpu staff i ddeall eu cyfrifoldebau o ran defnyddio technoleg i ehangu mynediad a chefnogi dysgwyr, gan roi ystyriaeth i ddiogelwch ar-lein a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd.

Ymgysylltu â chyflogwyr a chymunedau

  • Ymgynghori a phartneriaethau

    Mae darparwyr dysgu yn cynnal eu hymwybyddiaeth ynghylch arferion perthnasol y diwydiant ac ynghylch y gofynion presennol o ran sgiliau digidol a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg, drwy ymgynghori a drwy bartneriaethau â chyflogwyr a chymunedau.

Datblygiad staff

  • Cyfrifoldebau staff Amcan cyffredin

    Mae gan yr holl staff ddealltwriaeth glir o’u cyfrifoldebau unigol o ran dysgu digidol, llesiant a diogelwch ar-lein.

Systemau a seilwaith menter

  • Cydymffurfio Amcan cyffredin

    Mae profiad digidol diogel a chadarn yn cael ei ddarparu i’r holl ddysgwyr a staff, gan gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a’r safonau perthnasol (gan gynnwys hygyrchedd).