Cyflawni ac asesu'r cwricwlwm

Mae ymarferwyr yn defnyddio dulliau a thechnegau digidol i wella addysgu, dysgu ac asesu, i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni’r lefel briodol o fedrau digidol ar eu cyfer. Mae staff yn fodlon arbrofi ac arloesi, gan rannu eu profiadau â chydweithwyr.

intro icon

Sgiliau dysgwyr

Mae’r holl ddysgwyr yn cyrraedd lefel o sgiliau digidol sy’n briodol i’w rhaglen ddysgu a’u nodau unigol.

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

Cynnydd dysgwyr

Defnyddir dull diagnostig i asesu sgiliau digidol dysgwyr ac fel llinell sylfaen i fesur eu cynnydd a’u deilliannau.

Nodau cysylltiedig

  • Safonau digidol

    Safonau clir y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer sgiliau digidol yn eu lle i alluogi dysgwyr a staff i fodloni gofynion y diwydiant, y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan adeiladu ar y cymwyseddau digidol a ddatblygwyd yn ystod addysg orfodol.

Ymarfer cynhwysol

Defnyddir offer, technolegau a systemau cynhwysol yn briodol i gefnogi, ymestyn a herio dysgwyr, ac ymgysylltu â nhw.

Nodau cysylltiedig

  • Cydlyniad a hygyrchedd

    Cynyddir cydlyniad a hygyrchedd dysgu digidol drwy amrywiaeth o ddulliau cyflwyno’r cwricwlwm sy'n briodol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, ac sy'n cynnig cyfleoedd dysgu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  • Profiad diogel Nod cyffredin

    Mae profiad addysgu a dysgu diogel a sicr yn cael ei roi ar waith a'i reoli ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff trwy ddarparu amgylcheddau rhithwir a ffisegol priodol.

Dulliau arloesol

Mae staff wedi’u grymuso i archwilio dulliau arbrofol ac arloesol o ran dysgu digidol, i werthuso a myfyrio ynghylch y deilliannau ac i rannu arferion da a’r gwersi a ddysgwyd.

Nodau cysylltiedig

  • Gwelliant parhaus

    Darperir cefnogaeth ar gyfer gwelliant parhaus profiad y dysgwr a phrosesau busnes trwy ddefnydd effeithiol ac arloesol o dechnoleg ddigidol.

  • Diwylliant cydweithredol Nod cyffredin

    Mae diwylliant o gydweithio yn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gorau yn cael eu rhannu i ysgogi defnydd effeithiol o sgiliau digidol er mwyn cefnogi prosesau arweinyddiaeth, dysgu a busnes.

Mannau dysgu

Mae darparwyr yn galluogi addysgu, dysgu, asesu a chymorth effeithiol, hygyrch a chynhwysol drwy gydgysylltu mannau dysgu rhithwir a ffisegol.

Nodau cysylltiedig

  • Cysono adnoddau

    Mae staff, adnoddau dysgu ac adnoddau busnes wedi'u halinio i alluogi cefnogaeth effeithlon i ofynion digidol addysg ôl-16 sy'n esblygu'n barhaus.